Ein Gofodau
Mae Xplore! yn cynnig sawl gofod modern, hyblyg ac unigryw gallwch eu llogi gan gynnig profiad cwbl wahanol i’ch gwestai. Yn ein prif neuadd wyddoniaeth mae dros 85 o arddangosion ymarferol i ddifyrru eich mynychwyr cyn neu ar ôl eu cyfarfod neu ddigwyddiad.
Yn ein prif neuadd wyddoniaeth mae dros 85 o arddangosion ymarferol i ddifyrru eich mynychwyr cyn neu ar ôl eu cyfarfod neu ddigwyddiad.
Mae ein gofodau yn berffaith ar gyfer pob math o wahanol ddigwyddiadau, gan gynnwys:
- Cyfarfodydd busnes a chyflwyniadau untro neu seremonïau gwobrwyo.
- Cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant neu weithdai ar gyfer eich cwsmeriaid
- Digwyddiadau rhwydweithio neu Gyfarfodydd Blynyddol
- Diwrnodau lansio cyhoeddus ar gyfer eich cynnyrch neu wasanaeth
- Cyfarfodydd neu weithgareddau cymunedol
Opsiynau ar gyfer llogi ystafelloedd
01
Theatr broffesiynol gyda sgrin cyflwyno a chyfarpar AV gyda seddi i 100 o westai
02
Gofod theatr gyda byrddau cabaret ar gyfer 80 o westai
03
2 x ystafell gyfarfod gyda seddi i 25.
04
Gofodau hyblyg gyda seddi i hyd at 64 a gofod mynediad agored sy’n addas ar gyfer digwyddiadau / perfformiadau lle byddwch yn.
05
Llogi’r ganolfan gyflawn, sy’n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio, ffeiriau swyddi, partïon a digwyddiadau corfforaethol arbennig.
06
Caffi sylweddol gyda mannau eistedd hyblyg ar gyfer 50, sy’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd neu weithgareddau cymunedol untro neu reolaidd.
Tystlythyrau
Clywed barn pobl sydd wedi cynnal digwyddiadau yn Xplore! yn flaenorol.
Roedd Katie a’r tîm yn gymwynasgar dros ben gan ofalu ein bod ni’n derbyn gofal a darpariaeth dda. Byddaf yn argymell Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn fawr fel lleoliad ar gyfer eich digwyddiad / cyfarfod nesaf.
Aaron Sussex
Cyfarwyddwr Gwerthu, Sales Geek
Roedd yr ystafell ei hun yn gweddu i’r dim. Digonedd o le, agored a glân gyda Theledu digon mawr imi gysylltu i fy ngliniadur.
Lee Evans
Swyddog Cyswllt Cyflogaeth, Adferiad Recovery
Roedd Xplore! yn wych o’r cychwyn cyntaf, staff hynod gyfeillgar a chymwynasgar, roedden nhw’n amyneddgar dros ben gyda ni wrth inni ddefnyddio’r gofod. Roedden nhw’n agored ac yn hawddgar, gan gynnwys galw heibio heb rybudd i ofyn cwestiwn sydyn.
Fiona Hilton
Rheolwr Cynhyrchu, Theatr Genedlaethol Cymru
Llogi Xplore!
Siaradwch gydag aelod o Dîm Xplore! i drefnu eich digwyddiad nesaf!
Contact
"*" indicates required fields
Llogi Xplore!
Siaradwch gydag aelod o Dîm Xplore! i drefnu eich digwyddiad nesaf!
"*" indicates required fields