Xplore! ydy prif Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Gogledd Cymru gan ddenu teuluoedd, twristiaid, grwpiau cymunedol a grwpiau ysgolion o bob oedran.
Mae Xplore yn atyniad i ymwelwyr ac yn elusen addysgol yng nghanol Wrecsam. Rydym yn is-gwmni i Brifysgol Wrecsam ac yn bodoli i sicrhau bod cymunedau lleol a rhanbarthol yn ymwneud gydag ac yn angerddol dros wyddoniaeth gan gyfoethogi bywydau dros 70,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ein Diben
Gweithredu fel cartref gwyddoniaeth. I gydweithio gyda chymunedau, gan feithrin ymddiriedaeth, ennyn chwilfrydedd a chodi dyheadau. Ennyn diddordeb ac ysbrydoli cymunedau i barhau gyda’u taith addysg y tu hwnt i Xplore!
Ein Gweledigaeth
Gweld cymunedau lleol a rhanbarthol yn ymwneud gydag ac yn angerddol dros wyddoniaeth.
Ein Nod
Rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwyddoniaeth mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol gyda phawb waeth beth fo’u hoedran, gallu neu gefndir.
Ein Gwerthoedd
- Cefnogol – teulu gwaith agos sy’n dathlu llwyddiannau ei gilydd.
- Dysgwyr yn ganolog – rhannu gwybodaeth ac arferion gorau; gweithredu fel pont rhwng y gymdeithas a gwyddonwyr.
- Hollgynhwysol – o ran eraill drwy werthfawrogi ac annog amrywiaeth yn y gweithle ynghyd â bwrw iddi’n weithredol i ennyn diddordeb cymunedau.
- Angerddol – am ein planed; gweithio’n ddiwyd i greu canolfan amgylcheddol gynaliadwy.
- Balch – o’n diwylliant Cymreig ac ein nodau ac amcanion elusennol.
I wybod mwy am ein trefn llywodraethu, gwelwch