Ymlaciwch a pheidiwch â phoeni am y drafferth o drefnu parti drwy gynnal parti yma yn Xplore!
Mae ein Partïon Pen-blwydd poblogaidd yn cael sêl bendith plant o bob rhan o Wrecsam a thu hwnt. Byddai dathlu gydag Xplore! yn rhwydd ac yn ddidrafferth. Bydd y plant yn cael modd i fyw a bydd yn werth am arian gwych ichi! Rydym yn cynnig pob math o themâu partïon ac yn cynnig y canlynol:
- Mynediad i’r ganolfan ac amser rhydd i roi cynnig ar ein 85+ o arddangosion rhyngweithiol.
- Gweithgaredd ymarferol yn ymwneud â Sleim, Rocedi neu Ddinosoriaid
- Cyflwynydd yn arbennig ar gyfer eich parti
- Aelodaeth Flynyddol ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd
- Potel diod Xplore! ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd
- Bag parti ar gyfer pob plentyn gyda: Llyfr nodiadau, pensil, peth i roi am ben pensil, miniwr a thocyn blwyddyn ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd.
Yn ogystal â’r manteision uchod, gallwch hefyd ddewis prynu gwahoddiadau dwyieithog sydd wedi’u dylunio a’u hargraffu’n broffesiynol am ffi ostyngol. Gallwch hefyd lawr lwytho ac argraffu’r gwahoddiadau am ddim os hoffech chi.
Mae partïon yn Xplore yn £15 fesul plentyn gyda bwyd neu £11 fesul plentyn heb fwyd.
Blaendaliadau
Unwaith y byddwch chi wedi trefnu eich parti, byddwn yn gofyn am flaendal na ellir ei ad-dalu o £30 ymhen wythnos i sicrhau eich dyddiad dewisol.
Themâu Partïon Pen-blwydd ar gyfer 10 i 20 o blant
Themâu Partïon Pen-blwydd ar gyfer 20+ o blant
Ar gyfer partïon gyda dros 20 o westeion, yn lle gweithdy gyda thema arbennig, rydym yn cynnig sioe wyddoniaeth fyw ar y thema pen-blwydd sydd ond ar gael ar gyfer partïon mwy. Yn y sioe hon mae gofyn i’r gynulleidfa gyfrannu’n sylweddol ac ar ôl y parti bydd pob un o’r gwesteion yn derbyn bag bach o gyfarpar i gynnal eu harbrofion gwyddoniaeth eu hunain yn eu cartref.
Cwestiynau parti pen-blwydd
Contact
"*" indicates required fields
Cwestiynau parti pen-blwydd
"*" indicates required fields