Bydd DARGANFOD//DISCOVER yn dychwelyd i Stryd Caer unwaith eto eleni, ar Awst y 5ed a’r 6ed 2023. Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a Tŷ Pawb yn cydweithio am y 3edd flwyddyn er mwyn cynnal gŵyl anhygoel llawn gwyddoniaeth a chelfyddydau ar gyfer y ddinas.
Gyda diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a busnes lleol Aparito am eu cyllid, ac yn sgil grantiau a ddyfarnwyd i Xplore! mae amserlen y digwyddiad eleni’n fwy eang nac erioed o’r blaen. Yn ystod yr ŵyl deuddydd fe fydd gweithdai a sioeau yn amlygu gwyddoniaeth Roald Dahl, rhyfeddodau anhygoel cemeg, dinosoriaid a llawer iawn mwy.
Dywedodd y Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol dros yr Economi ac Adfywio “Rydym wrth ein bodd o fod yn cydweithio gyda Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! unwaith eto i gynnal y digwyddiad arbennig hwn yng Nghanol Dinas Wrecsam. Roedd yr ŵyl y llynedd yn brofiad anhygoel ac roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn ymweld ag ein safleoedd ac yn mwynhau darganfod a dysgu am wyddoniaeth a’r celfyddydau. Rydym ar ben ein digon o barhau gydag ein partneriaeth gydag Xplore! ac yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’r ŵyl hon yn ôl i strydoedd Wrecsam wrth iddi barhau i ddatblygu.”
Dywedodd Dawn Pavey, Swyddog Prosiect yn Xplore! “Mae DARGANFOD//DISCOVER yn dychwelyd i Wrecsam am y drydedd flwyddyn sy’n ddatganiad gwych o’r buddsoddiad parhaus mewn digwyddiadau yng nghanol Dinas Wrecsam.
Mae’r ŵyl yn cynnig modd i fwyfwy o bobl ymwneud gyda Wrecsam, nid yn unig fel man i dwristiaid ond er mwyn iddyn nhw weld o lygad y ffynnon y berthynas ryngweithiol a chyffrous rhwng gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a’r celfyddydau. Rydym wir yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r ŵyl fwyaf amrywiol a chyffrous rydym wedi’i chynnal erioed!”
Bydd amserlen ar gyfer y digwyddiad ar gael maes o law. Gallai ymwelwyr alw heibio ar gyfer pa bynnag ran o’r ŵyl sy’n mynd a’u bryd nhw. Os prynwch chi docyn dydd, bydd modd ichi fwynhau pob digwyddiad gaiff eu cynnal y diwrnod hwnnw a bydd yn ddiwrnod gwerth am arian gwych i’r teulu oll. Byddwn yn cynnal gweithgareddau mewn amryw safleoedd ledled Xplore! a Tŷ Pawb yn ogystal â chynnal ambell i ddigwyddiad ar safle’r Farchredfa ar Stryd Henblas.
Mae Wrecsam yn mynnu sylw pawb eleni a gan hynny fe fydd y digwyddiad deuddydd hwn yn taflu goleuni ar ddau o atyniadau ymwelwyr Wrecsam. Bydd yn gyfle i’r preswylwyr sydd eisoes yn mwynhau ymweld ag Xplore! a Tŷ Pawb i fwynhau gweithgareddau yn ogystal â chynnig canolbwynt i dwristiaid newydd i Wrecsam sy’n awyddus i ganfod mwy am atyniadau’r ddinas.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyfryngau neu os oes gennych chi stondin weithgareddau ac yn dymuno cymryd rhan yn yr ŵyl, cysylltwch gyda info@darganfod-discover.com
Mae tocynnau ar gael i’w prynu o – www.darganfod-discover.com
Contact Us
"*" indicates required fields
Contact Us
"*" indicates required fields