Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth ymuno gyda ni ar gyfer ein digwyddiad rhad ac am ddim ar Orffennaf y 6ed 2024 yn Eglwys San Silyn, Wrecsam! Roeddem wrth ein bodd bod cynifer wedi ymuno gyda ni a braf iawn oedd gweld brwdfrydedd y gymuned wrth gymryd rhan. Diben y digwyddiad hwn oedd ennyn chwilfrydedd a meithrin cariad tuag at wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ymhlith unigolion o bob oedran. Drwy gynnig gweithgareddau ymarferol a sesiynau rhyngweithiol, ein nod oedd sicrhau bod STEM yn atyniadol ac yn addas i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu lefel profiad.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Eglwys San Silyn a oedd yn lleoliad unigryw a chroesawgar gan ategu ein hymrwymiad tuag at y gymuned a dysgu. Roedd awyrgylch braf a chynhwysol yr eglwys yn sicrhau bod y rheiny oedd yn bresennol yn teimlo’n gyfforddus ac wedi’u hannog i gynnal trafodaethau agored a chydweithio. Roedd yn galonogol dros ben gweld teuluoedd yn dod ynghyd i archwilio byd llawn rhyfeddod STEM, gan atgyfnerthu rôl yr eglwys fel hwb ymgysylltu cymunedol.
Mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio’n sylweddol ar ein cymuned. Roedd yn brofiad llawn hwyl ac addysgiadol i’r rheiny oedd yn bresennol, ac at hyn roedd yn amlygu pwysigrwydd addysg STEM yn y byd sydd ohoni heddiw. Drwy feithrin diddordeb yn y meysydd hyn, rydym yn gobeithio bwrw iddi i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr, datryswyr problemau a meddylwyr beirniadol. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth gallwch eu meithrin wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â heriau’r dyfodol, ac rydym yn falch iawn o gyfrannu tuag at yr achos hollbwysig hwn.
Hoffem estyn diolch o galon i Eglwys San Silyn am eu cymorth hael ac i’r holl wirfoddolwyr a’r unigolion wnaeth ein helpu i gynnal y digwyddiad. Mae eich brwdfrydedd a’ch ymroddiad wedi gosod sylfaen ar gyfer digwyddiadau a mentrau yn y dyfodol. I’n helpu ni i wella a pharhau i gynnig rhaglenni gwerth chweil, gofynnwn yn garedig ichi rannu eich adborth drwy gyflawni ein holiadur byr https://online1.snapsurveys.com/5ulm4m , gallwch hefyd danysgrifio i dderbyn ein newyddlen i wybod mwy am ein digwyddiadau sydd ar y gweill yma https://www.xplorescience.co.uk/contact/. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yn ein digwyddiad nesaf a pharhau gyda’r daith ddarganfod a dysgu hon ar y cyd!