Skip to content

Cenhadaeth EV3

By admin

Cwblhau heriau sy’n helpu i egluro a chreu rhannau o god er mwyn dysgu hanfodion sgiliau rhaglennu. Yn dilyn dysgu’r hanfodion sydd ynghlwm â defnyddio EV3, bydd y disgyblion yn rhoi’r sgiliau rhifedd a rhaglennu ar waith i brofi a llywio tirwedd greigiog. Bydd y dysgwyr yn cystadlu gan yrru eu EV3 trwy ddrysfa o … Continued

Crumblebots

By admin

Cyfle creadigol wrth i ddisgyblion greu rhaglen ar Crumble i symud Crumblebot drwy wahanol heriau. Bydd y sesiwn yn cychwyn gyda thrafodaeth ar raglennu syml rhesymeg Boolean. Yna bydd y dysgwyr yn creu rhaglen sylfaenol er mwyn i’r Crumblebot symud mewn sgwâr. Gan ddefnyddio’r sgiliau hyn, bydd y dysgwyr yn bwrw iddi i geisio llunio … Continued

Codio LEGO WeDo 2.0

By admin

Bydd dysgwyr yn ymchwilio sut mae synwyryddion symud a gerau yn cyfuno â chod er mwyn dod â’r LEGO yn fyw. Amcanion Dysgu: • Dysgu sut i godio rhaglen syml i symud modelau LEGO. • Cyfuno codio ac adeiladu i symud model LEGO gan ddefnyddio synwyryddion. Rydym yn cynnig tri gweithdy ar wahân sy’n ymwneud … Continued

Codio LEGO WeDo 1.0

By admin

Rydym yn cynnig dau weithdy ar wahân sy’n ymwneud â chodio ac adeiladu LEGO. Mae ein gweithdy Llew yn Rhuo yn gyflwyniad gwych i godio gan ddefnyddio’r feddalwedd LEGO WeDo. Bydd disgyblion yn ymchwilio sut mae synwyryddion symud a gerau yn cyfuno gyda chod i ddod â’r Llew yn fyw. Mae ein gweithdy Her Codio … Continued

Cyflwyniad i EV3s

By admin

Mae ein gweithdy Cyflwyniad i EV3’s yn arbennig ar gyfer disgyblion hŷn ysgolion cynradd (Cyfnod Allweddol 2 Uwch) a disgyblion ieuengach ysgolion uwchradd  (Cyfnod Allweddol 3). Gan ddefnyddio EV3’s LEGO Mindstorms, bydd cyfle i’r disgyblion ddysgu sut i godio’r EV3’s i symud a defnyddio’u sgiliau sylfaenol i gwblhau heriau megis osgoi taro ffigyrau bach LEGO. … Continued

Skip to content