Rydym yn cynnig dau weithdy ar wahân sy’n ymwneud â chodio ac adeiladu LEGO.
Mae ein gweithdy Llew yn Rhuo yn gyflwyniad gwych i godio gan ddefnyddio’r feddalwedd LEGO WeDo. Bydd disgyblion yn ymchwilio sut mae synwyryddion symud a gerau yn cyfuno gyda chod i ddod â’r Llew yn fyw.
Mae ein gweithdy Her Codio yn cyfuno Scratch a Lego drwy annog y disgyblion i adeiladu cwch hwylio ac animeiddio’r cwch gan ddefnyddio codio Scratch. Bydd cyfle hefyd i’r disgyblion greu eu golygfeydd cefndirol a gwisgoedd ar gyfer coblynnod. Perffaith fel cyflwyniad i Scratch a hefyd i ddosbarthiadau sydd wedi defnyddio Scratch yn flaenorol gyda’r agwedd ychwanegol o animeiddio model corfforol.
Gellir teilwra’r sesiynau i weddu i lefelau gallu eich dysgwyr gan sicrhau bod y sesiynau’n ennyn diddordeb dysgwyr o bob lefel.
Amcanion dysgu
Cysylltwch i wybod mwy neu i drefnu rhaglen.
Mae Xplore yn cynnig ystod eang o Weithdai, Sioeau a heriau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ac ar gyfer pobl o bob gallu. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gysylltu i ymholi am y gweithdai ac ati sydd ar gael neu i wybod mwy.
"*" indicates required fields