Skip to content

Ymunwch gyda ni ar gyfer Parti Calan Gaeaf heb ei debyg, llawn gwyddoniaeth ac arswyd, gan fwynhau noson fythgofiadwy o ofn ac antur!

Yma yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! bydd cyfle ichi ymdrochi mewn byd llawn dirgel, arbrofion a hwyl ymarferol llawn rhyfeddod.

Beth allwch chi ei ddisgwyl;

Sioe Fyw Taflu Llwch i’r Llygaid – Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan ein sioe fyw newydd sbon! Mae Taflu Llwch i’r Llygaid yn sioe unigryw a fydd yn eich tywys ar daith drwy fyd difyr dros ben opteg, cemeg a ffiseg, gan ddatgelu cyfrinachau rhai o’r triciau hud a lledrith mwyaf syfrdanol.

Creu Sleim – Torchwch eich llewys yn barod am y llanast! Pe baech chi’n arbenigwr sleim neu’n rhoi cynnig ar greu sleim am y tro cyntaf un, mae’r gweithgaredd ymarferol hwn yn ffordd wych o baratoi at Galan Gaeaf.

Creu Mygydau – Ymunwch gyda ni mewn gweithdy creu mygydau llawn hwyl lle gallwch greu eich mwgwd Calan Gaeaf unigryw eich hun! Mae’r gweithgaredd ymarferol hwn yn berffaith ar gyfer pobl o bob oedran a lefel sgiliau.

Helfa Ysbrydion – Wnewch chi fentro dod o hyd i’n hysbrydion yn Xplore!? Maen nhw’n feistri ar guddio! Bydd angen ichi ddefnyddio eich sgiliau hel ysbrydion mewnol i’w canfod! Ydych chi’n ddigon dewr?

Disgo Angenfilod – Gwisgwch eich esgidiau dawnsio a byddwch yn barod i ddawnsio gyda’r Bŵgan! Dawnsiwch drwy’r nos gan fwynhau’r gerddoriaeth arswydus.

Cast neu Geiniog – Hoffech chi gast neu geiniog? Gweithgareddau a gemau llawn hwyl mewn noson fythgofiadwy!

Gwisg Ffansi – Pwy fydd hi eleni? Dewch i’n Parti Calan Gaeaf gan wisgo’ch gwisgoedd mwyaf cyfareddol, creadigol neu frawychus! Bydd yr enillydd yn erbyn gwobr arswydus!

Arddangosfa – Bydd cyfle ichi hefyd fwrw golwg ar dros 85 o arddangosion rhwng eich gweithgareddau hwyl sydd wedi’u rhestru uchod.

Gorau oll? Mae popeth uchod wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn.

 

Bydd ein parti Calan Gaeaf yn syfrdanu eich plant a byddan nhw’n gwenu o glust i glust!!

 

Peidiwch â cholli cyfle – gafaelwch yn eich côt labordy, gwisgwch eich gwisg orau, ac ymunwch gyda ni am noson o hwyl a darganfod arswydus!

 

Prynwch eich tocynnau rŵan cyn iddi fynd yn rhy hwyr!

📅 31 Hydref 2024

🕓 16:30 – 18:30

📍 Xplore! LL13 8AE

Skip to content