Yn ddiweddar bu Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn ferw o weithgarwch archwilio a darganfod yn ystod ein digwyddiad Genomeg, Gyda’r Nos!
Roedd y digwyddiad ar y cyd â Phartneriaeth Genomeg Cymru, a daeth egin wyddonwyr ac unigolion chwilfrydig ynghyd i gymryd rhan mewn sesiwn ddifyr a rhad ac am ddim lle’r oedd cyfle i ddysgu mwy am echdynnu DNA, mwynhau sgyrsiau arbennig am eneteg a rhyngweithio gydag ymchwilwyr blaenllaw sydd ar flaen y gad yn y maes.
Cychwynnodd y digwyddiad gydag ystod o weithdai DNA rhyngweithiol ac ymarferol. Bu’r rheiny oedd yn bresennol yn llawn chwilfrydedd (ac yn barod gyda’u microsgopau!) gan ymdrochi eu hunain yn y broses ddifyr o ddadansoddi llinynnau DNA.
Yn dilyn y gweithdai arddangos, roedd cyfle i fwynhau cyfres o sgyrsiau difyr a oedd yn taflu goleuni ar fyd aml-wyneb geneteg.
Bu i bynciau’r trafodaethau amrywio o rôl geneteg ynghlwm ag iechyd a chlefydau i effaith datblygiadau mewn addasu / peirianneg enetig a bu i bob un o’r cyflwyniadau sbarduno sgyrsiau difyr.
Roedd yn ddigwyddiad gwerth chweil i’r rheiny oedd yn cymryd rhan, ac yn llawer mwy na dim ond noswaith o weithgareddau gwyddonol; roedd yn wahoddiad i fod yn rhan o daith barhaus i fwrw golwg ar ryfeddodau geneteg gan ennyn chwilfrydedd a fyddai heb os nac oni bai yn parhau i ffynnu y tu hwnt i bedair wal Canolfan Wyddoniaeth boblogaidd Wrecsam.