Byddai Partneriaethau gydag Xplore! yn effeithiol ar gyfer unrhyw fusnes.
Bydd partneriaeth elusennol gydag Xplore! yn creu effaith anhygoel i’ch busnes p’un ai ydyw’n rhan o’ch gweithgareddau marchnata neu i’ch helpu i gyflawni eich amcanion Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Bydd eich cymorth yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’n canolfan gwyddoniaeth, gan bontio’r bwlch cyrhaeddiad a helpu mwy o blant nac erioed i ymwneud gyda phynciau STEM.
Gall Xplore! eich helpu i
- Uno’ch busnes gyda chymunedau mewn ffordd na all marchnata traddodiadol ei gyflawni
- Rhoi eich negeseuon ar waith ac ymwneud gyda chynulleidfa o dros 70,000 o bobl ledled y Gogledd orllewin a Gogledd Cymru.
- Gwella barn pobl o’ch brand
- Elwa o allu ennyn diddordeb cynulleidfa deuluol mewn amgylchedd braf.
Amlygu eich brand drwy ein deunydd ar bapur a digidol.
Clywed sut mae ein partneriaid cyfredol yn cydweithio gydag Xplore!
Ydych chi’n awyddus i gydweithio gydag Xplore?
Cysylltwch gydag ein tîm cymwynasgar a byddem yn fwy na bodlon trafod cyfleoedd cydweithio gydag ein gilydd!
Contact
"*" indicates required fields
Ydych chi’n awyddus i gydweithio gydag Xplore?
Cysylltwch gydag ein tîm cymwynasgar a byddem yn fwy na bodlon trafod cyfleoedd cydweithio gydag ein gilydd!
"*" indicates required fields
Tystlythyrau
Clywed sut mae ein partneriaid cyfredol yn cydweithio gydag Xplore!
Rydym yn falch dros ben y bydd ein partneriaeth yn helpu i ymestyn y gweithdai Mwyngloddio Magnetau i lawer mwy o blant ysgolion cynradd. Mae hon yn fenter gwerth chweil a fydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ynghylch pwysigrwydd metelau daear prin ar gyfer trosi ynni.
Martyn Cherrington
Arweinydd Rhaglen yn Innovate UK
Mae croesawu arddangosfa mor effeithiol i Wrecsam a Gogledd Cymru sydd nid yn unig yn ennyn diddordeb pobl ifanc ond oedolion fel ei gilydd, yn hollbwysig er mwyn sbarduno trafodaeth ynghylch y problemau byd-eang ac i’n hannog i sgwrsio am ddatrysiadau trwy beirianneg sifil.
Keith Jones
ICE Cymru
Mae’n bleser gennym ni barhau i feithrin ein perthynas gydag Xplore! Mae eu gwaith yn y gymuned yn destun canmoliaeth i’w tîm. Rydym yn angerddol dros ddysgu sgiliau trin arian o oedran cynnar, a bydd y sesiynau hyn yn cynnig heriau rhyngweithiol a fyddai’n hybu’r profiad dysgu.
Tony Smith
Prif Swyddog Llywodraethu yng Nghymdeithas Adeiladu’r Principality