Skip to content

Xplore! yn falch o ymgysylltu â grwpiau cymunedol a theuluoedd ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr. Rydym yn darparu ystod o weithgareddau ar gyfer grwpiau ieuenctid, ffeiriau cymunedol, ymgysylltu ag oedolion, a darpariaeth y tu allan i’r ysgol!

Gallwn gyflwyno sesiwn gyflawn neu fod yn rhan o ddigwyddiad llawer mwy gyda gweithgareddau galw heibio. Bydd ein hoffer a’n staff yn teithio i ble bynnag y dymunwch i’r gweithgareddau gael eu cynnal, ac mae gennym ein byrddau a’n gazebo ein hunain os yw’n ddigwyddiad awyr agored. Rydym wedi ein lleoli yn Wrecsam ond rydym yn hapus i deithio i’ch lleoliad, fodd bynnag gall costau ychwanegol fod yn berthnasol. Mae sesiynau ar gael yn Gymraeg ar gais.

Edrychwch beth allwn ni ei wneud i chi isod!

Rhaglen Gymunedol

Rydym yn cynnal sesiynau gweithgareddau am 1awr neu 2awr yn gyffredinol, fodd bynnag gallwn eu teilwra’n arbennig ar gyfer eich digwyddiad chi. Mae gennym ni ystod o weithgareddau ar gael, ond sydd heb eu cyfyngu i;

  • Creu ac Adeiladu gyda Lego
  • Creu Sleim
  • Crefftau Gwyddoniaet
  • Science Crafts
  • Ymchwilwyr Fforensig
  • Her Catapwlt
  • Codio
  • Rocedi

Gallwn deilwra ein gweithgareddau ac ein sesiynau i gynulleidfaoedd bach neu fawr yn dibynnu ar natur eich digwyddiad. Cysylltwch gyda ni i drafod eich gofynion mewn yn fwy manwl.

  • Arddangosion pen bwrdd
  • Gwyddoniaeth bysgio
  • Sioeau Gwyddoniaeth Byw
  • Sioeau Cromen Sêr
  • Gweithgareddau galw heibio

Mae gennym ni hefyd lu o fentrau sy’n arbennig ar gyfer grwpiau cymunedol a grwpiau eraill. Gallwn gynnal y sesiynau hyn am 1 awr, 2 awr, hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn.

  • Nosweithiau Seryddiaeth ar daith
  • STEM Hŷn
  • Sesiynau Gwyddoniaeth a Ffydd
  • Nosweithiau bathodynnau Geidiaid a Sgowtiaid
  • Sioeau gwyddoniaeth rhyngweithiol, gweithdai a gweithgareddau galw heibio.

Lawr lwytho ein rhaglen Gymunedol!

Cysylltwch gyda Ni!

I drefnu eich sesiwn allgymorth neu i wybod mwy, cysylltwch gydag ein tîm cymunedol cymwynasgar drwy ddewis Cymuned a phrosiectau o’r rhestr isod.

Contact

"*" indicates required fields

Cysylltwch gyda Ni!

I drefnu eich sesiwn allgymorth neu i wybod mwy, cysylltwch gydag ein tîm cymunedol cymwynasgar drwy ddewis Cymuned a phrosiectau o’r rhestr isod.

"*" indicates required fields

Skip to content