Skip to content

Mae atyniad i dwristiaid yn Wrecsam yn paratoi ar gyfer ehangu cosmig, ac maen nhw’n gobeithio ysbrydoli trigolion yr ardal i leisio’u barn am yr hynny maen nhw’n awyddus i weld yn y ganolfan yn y dyfodol.

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a symudodd i Stryd Henblas yn 2021, yn sicrhau y bydd eu presenoldeb yn y ddinas yn parhau i gael effaith barhaus ar gymunedau yn Wrecsam a thu hwnt.

Mae’r safle wrthi’n paratoi ar gyfer datblygu lle i fyny’r grisiau, gan ychwanegu at yr 80 o arddangosion a gweithdai ar eu llawr gwaelod, yn ogystal â sicrhau bod y gwaith diweddaru ar yr adeilad yn lleihau eu ôl-troed carbon.

Mae Xplore!, allai groesawu popeth o blanetariwm o’r radd flaenaf i le chwarae arbennig ar gyfer plant o dan 7, ynghyd â chyfleusterau cynadledda i fusnesau, yn annog trigolion Gogledd Cymru i gysylltu gyda nhw i roi gwybod beth hoffan nhw ei weld yno.

Bu modd cynnal gwelliannau cychwynnol i’r adeilad gyda diolch i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin am gyllid. Y gobaith ydy y caiff 248 o baneli ffotofoltäig (PV), to newydd a deunydd ynysu eu gosod erbyn Medi 2024.

At hyn, bu i’r cyllid o £1.5miliwn gan Lywodraeth y DU ganiatáu i Xplore! fuddsoddi mewn ymchwil i ehangu cynnig y ganolfan drwy’r dulliau mwyaf ystyriol o ran carbon, gan gydweithio gydag ymchwilwyr marchnad, ymgynghorwyr arddangosfeydd a phenseiri i lunio cynllun manwl o’r ail lawr.

Dywedodd swyddog prosiectau Xplore!, Dawn Pavey: “Mae datblygu cynaliadwy yn flaenoriaeth sylweddol ar gyfer Wrecsam, felly byddai lleihau ein hôl-troed carbon a mapio cynlluniau hirdymor yn gam cyntaf cyffrous dros ben.

“Mae’n bwysig inni ein bod yn cynnig addysg hinsawdd rhyngweithiol, amserol a hwyl i’n hymwelwyr, yn ogystal â bod cystal â’n gair drwy sicrhau bod y safle mor ynni effeithlon â phosibl.

“Gyda diolch i’r gronfa am eu cyllid bu modd inni fuddsoddi i leihau ein defnydd o garbon, ac rydym yn cydweithio gyda chadwyn gyflenwi yng Ngogledd Cymru i gyflawni’r gwelliannau.”

Y gobaith ydy, drwy gynhyrchu trydan adnewyddadwy, gosod paneli solar PV a gwella’r deunydd ynysu, y bydd yn arbed hyd at 22 tunnell o CO2 y flwyddyn i’r ganolfan. Mae hyn gyfwerth â hedfan o Lundain i Efrog Newydd 26 gwaith.

Yn yr haf, bydd y ganolfan yn cael ei gynnal gan 100 y cant o’i drydan adnewyddadwy ei hun, a bydd yn cynhyrchu 82.32 MWh y flwyddyn gan gynnal 82 y cant o’u gweithrediadau. Caiff yr ynni sy’n weddill ei ddarparu i’r grid er mwyn ei ddosbarthu i dai a busnesau lleol.

Ychwanegodd Dawn: “Rydym yn dal ar agor fel arfer a byddem wrth ein bodd yn gweld ymwelwyr a thrigolion y gymuned yn rhannu eu barn ynghylch yr hyn yr hoffan nhw ei weld yn y lle newydd, er mwyn ein helpu i ddatblygu safle sy’n ennyn diddordeb pawb.”

Dywedodd y Pensaer Dan Thorpe, o Cassidy + Ashton, yr ymgynghoriaeth pensaernïaeth a dylunio a benodwyd ar gyfer y prosiect: ‘Rydym ar ben ein digon o gael cydweithio gyda thîm Xplore! i gyflawni’r prosiect gwaith to sydd ar y safle ar hyn o bryd, ynghyd ag adeiladu estyniad i lawr cyntaf y gofod arddangos.

 

“Mae’r ganolfan darganfod gwyddoniaeth yn adnodd gwerth chweil, ac rydym yn falch iawn o gyfrannu at gynllun sydd yn mynd i’r afael ag agenda cynaliadwyedd ond sydd yr un mor bwysig yn arddangos effaith cynaliadwyedd i ymwelwyr i’r ganolfan.”

Skip to content