Mae’n bleser gan Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! gyflwyno Rhyfeddodau’r Gaeaf, o ddydd Sadwrn, Rhagfyr yr 16eg hyd at Ionawr y 14eg. Mae’r sioe wyddoniaeth newydd sbon hon yn cyflwyno ystod rewllyd o arbrofion cyffrous i bobl o bob oedran mewn pryd ar gyfer y gwyliau ysgol.
Gallai cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gyfres o arddangosiadau ac arbrofion Nadolig gan dîm o gyfathrebwyr gwyddoniaeth anhygoel Xplore!. Dewch i ddysgu am ryfeddodau arbennig y gaeaf. Byddwch yn barod i weld arbrofion cyfareddol sy’n datgelu’r wyddoniaeth sydd ynghlwm â sled Siôn Corn, bwrw iddi i ddysgu mwy am ryfeddodau goleuni’r gogledd a chanfod mwy am nodweddion naturiol ac anhygoel eira.
Bydd y sioe hon yn gyfle gwerth chweil i ddysgu mwy am wyddoniaeth y gaeaf, pe baech chi’n egin wyddonydd neu’n ymddiddori yn rhyfeddodau’r byd naturiol.
Gallwch fanteisio ar y sioe anhygoel hon am ddim gydag eich ffi mynediad. Felly, gan dalu un ffi fe gewch chi docyn i’r sioe Gwyddoniaeth y Gaeaf, ymwneud â dros 80 o arddangosion rhyngweithiol sy’n ymdrin ag amryw feysydd gwyddoniaeth mewn ffordd hwyl a dengar, ynghyd â gwneud atgofion anhygoel fel teulu’r tymor Nadolig hwn.
At hyn, mae’r Ganolfan Wyddoniaeth yn gartref i unig siop wyddoniaeth bwrpasol Gogledd Cymru. Yma mae llond y lle o eitemau gallwch eu stwffio mewn hosan Nadolig neu anrhegion ar gyfer eich nith neu nai sydd wrth eu bodd gyda dinosoriaid; mae gan siop wyddoniaeth Xplore! rywbeth at ddant pawb.
Gallwch brynu’r tocynnau ar-lein ac yn y dderbynfa. I wybod mwy, ewch i’n gwefan www.xplorescience.co.uk neu dilynwch ni ar Instagram, Twitter, Facebook a TikTok i weld y diweddaraf a mwynhau cipolwg o’r gwaith y tu ôl i’r llenni.
Contact Us
"*" indicates required fields
Contact Us
"*" indicates required fields